Dwygyfylchi (pentref)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Erthygl yw hon am bentref Dwygyfylchi: am y plwyf o'r un enw gweler Dwygyfylchi (plwyf).
Golygfa ar bentref Dwygyfylchi o'r gorllewin, gyda'r Alltwen, Penmaen-bach a Pen y Gogarth yn y cefndir
Eglwys Gwynin Sant, Dwygyfylchi.

Pentref ar arfordir gogledd Cymru yw Dwygyfylchi. Mae'n gorwedd ger yr arfordir wrth droed Bwlch Sychnant gyda phentref Penmaenmawr i'r gorllewin a thref Conwy dros y bryniau i'r dwyrain. Mae'n un o wardiau tref Penmaenmawr ond yn cael ei gyfrif ar wahân fel pentref.

Enwir y pentref ar ôl y plwyf hanesyddol o'r un enw (gweler Dwygyfylchi (plwyf)). Ceir peth dryswch hyd yn oed yn lleol ynglŷn ag enw'r pentref. Capelulo, a enwir ar ôl y sant cynnar Ulo, oedd cnewyllyn hanesyddol y pentref, wrth droed Bwlch Sychnant, ond wrth i'r pentref dyfu yn is i lawr tua glan y môr o'r 18fed ganrif ymlaen, mabwysiadwyd enw'r plwyf ar gyfer y pentref cyfan. Mae union ystyr yr enw yn ansicr. Mae'n deillio efallai o'r hen air dwy ('dwyfol' neu 'sanctaidd', hefyd 'duw' neu 'dduwies') a cyfylchi, gair Cymraeg Canol anghyffredin iawn sy'n golygu 'caer' efallai.

Mae'r pentref yn gorwedd yn hanner dwyreiniol y llecyn eang o dir isel rhwng mynydd y Penmaen-mawr i'r gorllewin a'r Penmaen-bach i'r dwyrain, gyda chaeau gwyrdd a chraig trawiadol Trwyn yr Wylfa yn ei gwahanu oddi ar gweddill Penmaenmawr. Gan fod y pentref chwarel a thref glan môr a dyfodd yn yr hanner gorllewinol yn ddiweddarach, cyfeirir at Ddwygyfylchi yn lleol fel "Yr Hen Bentref."

Eglwys Gwynin Sant yw eglwys y plwyf. Nid yw'r eglwys bresennol yn hen iawn ond bu eglwys yma yn yr Oesoedd Canol a oedd ym meddiant Abaty Aberconwy. Cafodd yr hen eglwys ei hailadeiladu o'r newydd bron yn 1760, a dim ond darn o ffenestr o'r 16eg ganrif sy'n aros ohoni; ailadeiladwyd rhan helaeth yr adeilad hwnnw yn ei dro yn y 19eg ganrif. Mae Syr John Wynn o Wydir yn cyfeirio ati ac yn dweud bod Gwynan a'i frawd Boda, meibion Helig ap Glannog, wedi eu claddu yno.[1]

Cyfyd bryn Yr Alltwen, a goronir gan olion bryngaer, tu ôl i'r pentref, rhwng Penmaen-bach a Bwlch Sychnant. Mae lôn yr A55 a Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru yn gorwedd rhwng y pentref a'r traeth tywodlyd, ond gellir croesi pont cerddwyr i'w gyrraedd.

Tyfodd y pentref yn gyflym yn yr 20fed ganrif. Codwyd sawl ystad o dai cyngor ac ers hynny mae stadau eraill wedi eu codi hefyd.

Mae'r mwyafrif o blant ifanc y pentref yn mynychu Ysgol Capelulo.

Ceir Clwb Golff Penmaenmawr yn rhan uchaf y pentref, wrth ymyl y lôn i Fwlch Sychnant. Mae'n un o'r clybiau golff hynaf yng ngogledd Cymru.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. H. Hughes a H. L. North, The Old Churches of Snowdonia (Bangor, 1924; arg. newydd, Capel Curig, 1984).

Gweler hefyd[golygu]