Glanwydden

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Glanwydden

Pentref bychan yn ardal y Creuddyn, bwrdeistref sirol Conwy, yw Glanwydden (cyfeiriad grid SH815804). Fe'i lleolir rhwng Llandudno a Bae Colwyn tua milltir i'r de-orllewin o Fae Penrhyn.

Mae gan y pentref un dafarn a thua 30 o dai. Cofnodir melin wynt ac ystordai yno mewn siarter a luniwyd yn 1580. Yn yr 17eg ganrif datblygwyd chwareli calchfaen yn y cylch ac yn ddiweddarach defnyddwyd y garreg at adeiladu rhai o westai crand Llandudno.

Ym Mai 2008 cynhaliwyd Eisteddfod yr Urdd yn y pentref.