Pensarn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Traeth Pensarn.
Gweler hefyd: Pen-sarn (Ardudwy, Gwynedd) a Penysarn (Ynys Môn).

Pentref glan môr a chymuned ym mwrdeisdref sirol Conwy yw Pensarn. Mae'n gorwedd ar arfordir gogledd-ddwyrain Cymru rhwng Abergele i'r de-orllewin a Thywyn, Bae Cinmel a'r Rhyl i'r dwyrain. Rhed yr A549 trwy'r pentref ac mae Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru yn mynd trwyddo. Ceir gorsaf yno.

Datblygodd Pensarn yn bennaf fel canolfan gwyliau glan môr wrth i boblogrwydd Y Rhyl a'r cyffiniau gynyddu fel cyrchfan twristaidd. Ceir sawl maes carafanau yn y pentref ac mae'r traeth eang, a gyrhaeddir trwy groesi bont dros y rheilffordd, yn dywodlyd a braf. Mae'n boblogaidd iawn gan ymwelwyr yn yr haf.

I'r de-ddwyrain o Bensarn ceir Morfa Rhuddlan, safle brwydr rhwng y Cymry a'r Eingl-Sacsoniaid yn yr Oesoedd Canol Cynnar.

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:


CymruConwy.png Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Conwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato