Hen Golwyn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Golygfa ar ran o Hen Golwyn o'r traeth, dros draphont Rheilffordd Arfordir Cymru

Pentref mawr (neu dref fechan) ar arfordir Gogledd Cymru ym Mwreisdref Sirol Conwy yw Hen Golwyn (Saesneg: Old Colwyn - cyfeiriad grid SH870787). O safbwynt llywodraeth leol, mae'n rhan o gymuned Bae Colwyn. Gorwedd Parc Eirias a phencadlys Heddlu Gogledd Cymru rhwng y pentref a Bae Colwyn. Mae ganddo boblogaeth o 7,626 (Cyfrifiad 2001).

Mae priffordd yr A55 a Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru yn gorwedd rhwng y pentref a'r môr. Rhed yr hen briffordd drwy ganol y pentref gan ei gysylltu â Bae Colwyn tua milltir i'r gorllewin a Llanddulas ac Abergele i'r dwyrain. Mae lôn yn arwain i fyny o ganol Hen Golwyn i gyfeiriad Llaneilian-yn-Rhos a bryniau Rhos i'r de.

Colwyn oedd enw gwreiddiol y pentref, a dim ond yn y 19eg ganrif wrth i Fae Colwyn dyfu yn dref glan môr y daethpwyd i'w alw'n 'Hen Golwyn'. Dydy Hen Golwyn ddim yn arbennig o hen, felly! Tyfodd yn y 19eg ganrif diolch i dwf Bae Colwyn ei hun ac fel pentref ar gyfer gweithwyr yn chwareli Llysfaen, gerllaw. Mae llawer o dai'r pentref yn rhai diweddar a godwyd ar gyfer pobl yn symud i ymddeol yn y rhan hon o ogledd Cymru, o ddinasoedd gogledd-orllewin Lloegr yn bennaf.

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Hen Golwyn (pob oed) (8,113)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Hen Golwyn) (1,719)
  
21.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Hen Golwyn) (4901)
  
60.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Hen Golwyn) (1,440)
  
40.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Eisteddfod Genedlaethol[golygu]

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Hen Golwyn yn 1941. Am wybodaeth bellach gweler:

Cyfeiriadau[golygu]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.