Llaneilian-yn-Rhos
Pentref bychan ynm Mwrdeisdref Sirol Conwy yw Llaneilian-yn-Rhos (ceir yr amrywiad Llaneilan-yn-Rhos weithiau, yn enwedig mewn ffynonellau Saesneg) cyfeiriad grid SH863764. Mae'n gorwedd yn y bryniau ger arfordir Gogledd Cymru, tua milltir a hanner i'r de o Hen Golwyn. Ceir golygfeydd braf o ben y lôn gul sy'n dringo o Hen Golwyn dros ardal Bae Colwyn a'r môr.
Ceir sawl hen fwthyn yn y pentref sy'n dyst i'w hanes. Fe'i gelwir yn Llaneilianyn-Rhos am ei bod yn gorwedd yn hen gantref Rhos, a fu hefyd yn un o deyrnasoedd cynnar Cymru, er mwyn gwahaniaethu rhyngddo a phlwyf Llaneilian arall, ym Môn.
Ffynnon Eilian [golygu]
Bu Llaneilian yn enwog ar un adeg am Ffynnon Eilian, sy'n gorwedd tua hanner milltir o eglwys y plwyf. Fel y plwyf ei hun, fe'i cysylltir â Sant Eilian, un o gyfoeswyr Sant Seiriol, yn ôl traddodiad. Roedd y ffynnon yn adnabyddus am filltiroedd hyd at ddechrau'r 20fed ganrif fel "ffynnon felltith". Byddai ceidwad y ffynnon, yn gyfnewid am swm o arian, yn gollwng pin a darn o blwm gyda phapur ag enw rhywun arno wedi'i blygu tu mewn iddo i'r ffynnon ac yn yngan swyn i felltithio'r anffodusyn. Ond roedd yn ffynnon fendithiol hefyd; roedd yn gallu gwella cleifion, yn ôl y sôn, ac arferid clymu clytiau i goeden uwchben y ffynnon.
Gŵr o'r enw John Edwards oedd ceidwad olaf y ffynnon. Roedd yn ennill bywoliaeth dda o'r swydd am ei fod yn gofyn tâl am godi'r fellith hefyd ac felly'n elwa dwywaith. Ar ôl i'r Eglwys dderbyn cwynion, llenwyd y ffynnon hynafol gan yr awdurdodau yn 1829 a chafodd Edwards ddirwy o 15 swllt. Ond nid ataliwyd y pererinion a ddeuai yno hyd at flynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif i gael bendith (neu felltith).[1][2]
Enwogion [golygu]
Ganed y llenor enwog Thomas Gwynn Jones ym mhlwyf Betws yn Rhos, ond symudodd y teulu i fyw yn Llaneilian-yn-Rhos lle treuliodd ei lencyndod. Ceir atgofion y bardd am yr ardal ym mhennod gyntaf ei gyfrol hunangofiannol Brithgofion (Llyfrau'r Dryw, 1941).
Cyfeiriadau [golygu]
Abergele · Bae Cinmel · Bae Colwyn · Bae Penrhyn · Betws-y-Coed · Betws yn Rhos · Bryn-y-maen · Bylchau · Capel Curig · Capel Garmon · Cefn Berain · Cefn-brith · Cerrigydrudion · Conwy · Craig-y-don · Cwm Penmachno · Cyffordd Llandudno · Dawn · Deganwy · Dolgarrog · Dolwen · Dolwyddelan · Dwygyfylchi · Eglwysbach · Esgyryn · Gellioedd · Glanwydden · Glasfryn · Gwytherin · Gyffin · Hen Golwyn · Henryd · Llanbedr-y-cennin · Llandrillo-yn-Rhos · Llandudno · Llanddoged · Llanddulas · Llanefydd · Llaneilian-yn-Rhos · Llanfairfechan · Llanfair Talhaearn · Llanfihangel Glyn Myfyr · Llangernyw · Llangwm · Llanrwst · Llanrhos · Llanrhychwyn · Llan Sain Siôr · Llansanffraid Glan Conwy · Llansannan · Llysfaen · Maenan · Y Maerdy · Melin-y-coed · Mochdre · Nebo · Pandy Tudur · Penmachno · Penmaenmawr · Pensarn · Pentrefelin · Pentrefoelas · Pentre-llyn-cymmer · Pentre Tafarn-y-fedw · Pydew · Rowen · Rhydlydan · Rhyd y Foel · Tal-y-bont · Tal-y-cafn · Trefriw · Tyn-y-groes · Tywyn · Ysbyty Ifan