Parc Eirias

Oddi ar Wicipedia
Parc Eirias
Mathlleoliad chwaraeon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.2911°N 3.7127°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH857783 Edit this on Wikidata
Map

Parc cyhoeddus 50 erw ym Mae Colwyn, Sir Conwy, yw Parc Eirias (Saesneg: Eirias Park). Bu'n adnabyddus ar un adeg fel parcdir agored gyda gerddi a llyn cychod poblogaidd ond mae wedi datblygu i fod yn un o brif ganolfannau chwaraeon a gweithgareddau hamdden gogledd Cymru. Mae'r enw lle Eirias yn cyfeirio at ardal ganoloesol.

Lleolir pencadlys Heddlu Gogledd Cymru ar safle ger y parc.

Cyfleusterau chwaraeon[golygu | golygu cod]

Parc Eirias: yr hen bwll cychod

Lleolir Canolfan Hamdden Colwyn yn y parc, lle ceir pwll nofio chwech lôn 25 metr gyda sleid dŵr. Yn ogystal ceir canolfan ffitrwydd ac iechyd, sawna, stafell stêm a phwll sba dŵr cynnes.

Ger y Ganolfan ceir Stadiwm Athletau a Chwaraeon gyda grandstand a llifoleuadau gyda maes chwarae synthetig pêl-droed a hoci. Mae cyfleusterau eraill yn cynnwys cyrtiau tenis, lawnt bowlio, y llyn cychod gwreiddiol, maes chwarae plant ac ardal picnic.

Mae C.P.D. Bae Colwyn wedi defnyddio caeau ym Mharc Eirias tair gwaith yn y gorffennol. Bu'r Stadiwn yn gartref i'r clwb yn y 1980au cyn iddynt symud i faes Ffordd Llanelian.

Cyhoeddwyd cynllun i adeiladu trac seiclo dan-do yn 2007.[1]

Clustnodir y Stadiwm gan Undeb Rygbi Cymru fel lleoliad tebygol 'RGC 1404', y tîm rygbi rhanbarthol a fydd yn dod yn bumed dîm rygbi rhanbarthol Cymru os ydy'r cynllun yn gweithio.[2][3] Mewn canlyniad, bwriedir uwchraddio'r stadiwm yn sylweddol i gwrdd â'r gofynion.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]