Gyffin
Oddi ar Wicipedia
Pentref bach ger Conwy yng Ngogledd Cymru yw Gyffin (mae'r enw llawn Y Gyffin yn gywirach ond mae pawb yn ei galw'n Gyffin).
[golygu] Lleoliad
Lleolir Gyffin ar lôn y B5106 tua hanner milltir i'r de-orllewin o Gonwy, rhwng muriau'r dref honno a Bryn Eithin. Rhed Afon Gyffin ar hyd ochr ogleddol y pentref ar ei ffordd i aberu yn Afon Conwy, gan basio dan hen bont yng nghanol y pentref. Mae'r hen ffordd o Gonwy i Lanrwst yn rhedeg trwy'r pentref.
[golygu] Hanes
Er nad yw'n fawr o le heddiw a bod y rhan fwyaf o'r tai'n bur ddiweddar, mae gan Gyffin hanes hir. Safai treflan yn y Gyffin cyn i Edward I o Loegr godi castell a thref Conwy. Roedd llawer o'r tir yn perthyn i Abaty Aberconwy.
Mae Eglwys Gyffin yn hynafol. Fe'i cysgegrir i Sant Dominig heddiw ond tybir ei bod wedi'i chysegru i sant lleol yn wreiddiol.
Ganwyd y Dr Richard Davies, a gyfieithodd y Testament Newydd i'r Gymraeg, yn Gyffin yn y flwyddyn 1501. Plas y Person oedd ei gartref, ar safle ger y rheithordy presennol, ond does dim i'w weld o'r hen dŷ heddiw.
[golygu] Enwogion
- Richard Davies - esgob Llanelwy a Thyddewi (1501 - 1581)
Abergele · Bae Cinmel · Bae Colwyn · Bae Penrhyn · Betws-y-Coed · Betws yn Rhos · Bylchau · Capel Curig · Capel Garmon · Cefn Berain · Cefn-brith · Cerrigydrudion · Conwy · Craig-y-don · Cwm Penmachno · Cyffordd Llandudno · Dawn · Deganwy · Dolgarrog · Dolwen · Dolwyddelan · Dwygyfylchi · Eglwysbach · Esgyryn · Gellioedd · Glanwydden · Glasfryn · Gwytherin · Gyffin · Hen Golwyn · Henryd · Llanbedr-y-cennin · Llandrillo-yn-Rhos · Llandudno · Llanddoged · Llanddulas · Llanefydd · Llaneilian-yn-Rhos · Llanfairfechan · Llanfair Talhaearn · Llanfihangel Glyn Myfyr · Llangernyw · Llangwm · Llanrwst · Llanrhos · Llanrhychwyn · Llan Sain Siôr · Llansanffraid Glan Conwy · Llansannan · Llysfaen · Maenan · Y Maerdy · Melin-y-coed · Mochdre · Nebo · Pandy Tudur · Penmachno · Penmaenmawr · Pensarn · Pentrefelin · Pentrefoelas · Pentre-llyn-cymmer · Pentre Tafarn-y-fedw · Pydew · Rowen · Rhydlydan · Rhyd y Foel · Tal-y-bont · Tal-y-cafn · Trefriw · Tyn-y-groes · Tywyn · Ysbyty Ifan

