Llangwm, Conwy

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llangwm
Cofeb i Ferthyron Rhyfel y Degwm, Llangwm.
Capel y Groes tua 1875.

Pentref bychan a chymuned wledig yw Llangwm, sy'n gorwedd yn ne-ddwyrain bwrdeistref sirol Conwy, Cymru. Fe'i lleolir ar lôn fynydd tri-chwarter milltir o'i chyffordd ar yr A5, tair milltir i'r de o Gerrigydrudion. Mae'r pentref tua 250m uwch lefel y môr, ar gyfartaledd.

Mae Llangwm yn un o gymunedau rhanbarth hanesyddol Uwch Aled. Bu'n rhan o'r hen Sir Ddinbych gynt ac wedyn sir Clwyd. Rhed ffrwd fechan afon Medrad trwy'r pentref i afon Ceirw. I'r gorllewin mae ffordd yn cysylltu Llangwm â phentref bychan Gellioedd. I'r de mae'r tir yn codi i gopa moel Foel Goch (2004 troedfedd). Mae Pigyn Benja (neu Garnedd Benjamin ar fapiau OS) yn 522 metr o uchder ac i'r de-de-ddwyrain o'r pentref.

Ceir hen domen amddiffynol o'r Oesoedd Canol ger Maesmor, o'r enw Tomen Maesmor, tua milltir i lawr yr A5. Roedd y pentref yn flaenllaw iawn yn Rhyfeloedd y Degwm.

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]


Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llangwm, Conwy (pob oed) (470)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llangwm, Conwy) (284)
  
61.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llangwm, Conwy) (307)
  
65.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Llangwm, Conwy) (58)
  
29%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013

Pobl o Langwm[golygu]

  • Huw Jones ('Huw Jones o Langwm'), a anwyd yn Llangwm ar ddechrau'r 18fed ganrif.
  • Hugh Evans (1854-1934), cyhoeddwr ac awdur. Mae ei gyfrol enwog Cwm Eithin yn seiliedig ar ei brofiad o fywyd amaethyddol y fro.
  • Gwion Lynch Dramodydd a godwyd yng Ngharrog ond sy'n ffermio yn Llangwm ers dechrau'r 1980au.

Addysg[golygu]

Ceir oddeutu tri-deg o blant yn Ysgol Gynradd Llangwm; eu harwyddair yw: Yn y llaw fach mae'r holl fyd.

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: