Afon Ceirw

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Afon Ceirw ger ei tharddle yn llifo i gyfeiriad Cerrig-y-drudion.

Mae Afon Ceirw yn afon yng ngogledd Cymru. Ei hyd yw tua 14 milltir.

Mae'r afon yn tarddu yn y bryniau yn ardal Uwch Aled rhwng Carnedd y Filiast (2194') a Garn Prys (1747') yn ne sir Conwy, tua 4 milltir i'r gorllewin o Gerrigydrudion. Ar ôl llifo i gyfeiriad y dwyrain mae'n troi i'r de-ddwyrain ger Cerrigydrudion ac yn llifo'n gyfochrog â lôn yr A5 heibio i bentrefi bychain Llangwm a'r Maerdy ac ymlaen i'r Ddwyryd yn Sir Ddinbych. Rhai milltiroedd ar ôl hynny mae hi'n llifo i'r afon Alwen ger Corwen.

Mae enw'r afon yn atgof o'r amser pan geid nifer o geirw ac anifeiliad gwyllt eraill ar fryniau Cymru.

CymruConwy.png Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Conwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer