Shotton

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Shotton
Sir y Fflint
CymruFflint.png
Smotyn Coch.gif

Tref a chymuned yn Sir y Fflint ar Lannau Dyfrdwy, gogledd-ddwyrain Cymru, yw Shotton. Mae ganddi boblogaeth o tua 9,000 o bobl. Mae'n gorwedd ar yr A548 rhwng Y Fflint a Queensferry, tair milltir o'r ffîn â gogledd-orllewin Lloegr. Mae ganddi orsaf trenau ar Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru ac mae trac arall yn ei chysylltu â Wrecsam.

Cafodd y dre ei sefydlu fel pentre bach gan y Mersiaid ond newidiai ddwylo'n aml ar ôl hynny. Ni thyfodd lawer tan y 18fed ganrif pan agorwyd pyllau glo yn yr ardal.

Daeth yn enwog am ei gwaith dur, a agorwyd gan Gwmni John Summers a'i Feibion, o Staybridge. Yna cafodd ei redeg gan lywodraeth Prydain dan British Steel. Erbyn hyn mae'n rhan o Grŵp Corus.

Agorwyd Pont Penarlâg yn y dref yn 1889. Lleolir Ysbyty Cymunedol Glannau Dyfrdwy yno hefyd.

Tai yn Shotton

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]


Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Shotton (pob oed) (6,663)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Shotton) (596)
  
9.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Shotton) (3160)
  
47.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Shotton) (1,124)
  
38.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%
Pont Shotton

Cyfeiriadau[golygu]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013