A548

Oddi ar Wicipedia
A548
Mathffordd, ffordd dosbarth A Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Lloegr Lloegr
Yr A548 ger y Rhyl

Priffordd yng ngogledd-ddwyrain Cymru sy'n cysylltu Caer a Llanrwst yw'r A548.

Mae'n cychyn o gyffordd gyda'r briffordd A470 yng nghanol tref Llanrwst, ac yn arwain i'r de-ddwyrain, gan ddilyn Afon Elwy cyn belled â Llanfair Talhaearn, lle mae'n troi tua'r gogledd i Abergele. Yno, mae'n troi tua'r dwyrain ar hyd yr arfordir, ac yn croesi Afon Clwyd ychydig cyn cyrraedd Y Rhyl. Ger Gwespyr mae'n troi tua'r de-ddwyrain i ddilyn ochr orllewinol aber Afon Dyfrdwy. Gerllaw Kelsterton mae'n troi'n ddeuol, ac yn croesi Afon Dyfrdwy. Ychydig yn nes ymlaen i'r dwyrain, mae'n ymuno a'r A550, cyn ymwahanu eto rhyw filltir i'r de ac yn arwain tua'r dwyrain, gan groesi'r ffîn i Loegr ychydig cyn cyrraedd Caer.

Trefi a phentrefi[golygu | golygu cod]

Dyma restr o'r prif drefi a phentrefi ar lwybr y ffordd, neu yn ei hymyl, wedi'u rhestru o'r gorllewin i'r dwyrain:

Sir Conwy[golygu | golygu cod]

Sir Ddinbych[golygu | golygu cod]

Sir y Fflint[golygu | golygu cod]

Swydd Gaer[golygu | golygu cod]