Chwitffordd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Chwitffordd
Sir y Fflint
CymruFflint.png
Smotyn Coch.gif
Eglwys y Santes Fair a Beuno Sant yn Chwitffordd
Am enghreiftiau eraill o'r ffurf Saesneg ar yr enw, gweler Whitford.

Pentref bychan, cymuned a phlwyf yn Sir y Fflint yw Chwitffordd (Saesneg: Whitford). Mae'n gorwedd tua 4 milltir i'r gorllewin o Dreffynnon a 2 filltir i'r de o Fostyn.

Daw'r enw Cymraeg o'r enw Saesneg Whitford (naill ai "Rhyd Lydan" neu "Rhyd Wen"). Cofnodir y ffurf Widford yn Llyfr Domesday (1086) ac ymddengys fod y pentref wedi ei sefydlu gan yr Eingl-Sacsoniaid pan fu'r rhan yma o Gymru ym meddiant teyrnas Mercia. Ond adenillwyd y tir gan y Cymry a chafwyd y Cymreigiad Chwitffordd. Cofnodir yr enghraifft gynharaf o'r ffurf Gymraeg mewn dogfen sy'n dyddio i 1284.[1]

Ganwyd yr hynafiaethydd a naturiaethwr enwog Thomas Pennant ym mhlasdy Downing, ger y pentref, yn 1726. Ysgrifennodd Pennant gyfrol ar hanes a hynafiaethau Chwitffordd a'r cylch.

Pennant oedd un o'r awduron cyntaf i roi disgrifiad llawn o garreg Maen Achwyfan a'i groes Geltaidd gynnar, sy'n gorwedd tua milltir i'r gorllewin o Chwitffordd, ar y ffordd i Drelogan. Mae'r garreg yn dyddio'n ôl i'r 11eg ganrif.

Cyfeiriadau [golygu]

  1. Bedwyr Lewis Jones, Yn ei Elfen (1992).