Thomas Pennant (awdur)

Oddi ar Wicipedia
Thomas Pennant
Ganwyd14 Mehefin 1726 Edit this on Wikidata
Downing Edit this on Wikidata
Bu farw16 Rhagfyr 1798 Edit this on Wikidata
Galwedigaethbiolegydd, malacolegydd Edit this on Wikidata
Plantaelod anhysbys o deulu Pennant Edit this on Wikidata

Roedd Thomas Pennant (14 Mehefin 172616 Rhagfyr 1798) yn awdur, naturiaethwr a hynafiaethydd o Sir Fflint. Mae Pennant yn adnabyddus yng Nghymru yn bennaf am ei lyfr gwerthfawr ar hanes a hynafiaethau Cymru, Tours in Wales, a gyhoeddwyd mewn tair cyfrol rhwng 1778 a 1781.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Downing, ger Treffynnon, cartref Thomas Pennant, ym 1829

Ganed Pennant yn nhŷ Downing, plwyf Chwitffordd, ger Treffynnon yn Sir Fflint, yn 1726 yn fab i David Pennant ac Arabella Mytton. Roedd teulu Pennant yn foneddigion oedd wedi bod yn berchen stad Bychton ers canrifoedd, ac roedd David Pennant wedi etifeddu stad gyfagos Downing yn 1724. Ceir hanes llawn y plwyf yn y gyfrol The History of the Parishes of Whiteford and Holywell. Cafodd y frech wen yn blentyn.

Addysgwyd Thomas Pennant yn Ysgol Ramadeg Wrecsam ac yna yn ysgol Thomas Croft yn Fulham, cyn mynd i Goleg y Frenhines, Rhydychen ac yna i Goleg Oriel, Rhydychen.

Teithiodd Pennant yn eang i wneud ymchwil ar faterion naturiaethol a hynafiaethol. Aeth i Iwerddon ym 1754. Priododd Elizabeth Falconer yn 1759; priododd Ann Mostyn yn ddiweddarch. Yn 1765 aeth ar daith i'r cyfandir. Pedair blynedd yn ddiweddarach teithiodd o gwmpas Yr Alban ar gyfer ei lyfr A Tour in Scotland; marchogodd yr holl ffordd, gan gychwyn yng Nghaer. Yn 1778 ymwelodd ag Ynys Manaw. Gwnaeth ei daith fawr yng Nghymru yn 1773 a 1776. Roedd yr arlunydd Moses Griffith yn was iddo; ef fu'n gyfrifol am y lluniau yn ei lyfrau.

Gweithiau[golygu | golygu cod]

Tudalen deitl A Tour in Wales (1778), gydag engrafiad o Gastell Caergwrle
  • British Zoology (1766)
  • Synopsis of Quadrupeds (1771)
  • A Tour in Scotland in 1769 (1771)
  • Tour in Wales (1778)
  • Journey to Snowdon I. & II. (1781 a 1783)
  • Journey from Chester to London (1782)
  • Arctic Zoology (1785–1787)
  • Account of London (1790)
  • Indian Zoology (1790)
  • Literary Life of the late T. Pennant (1793)
  • The History of the Parishes of Whiteford and Holywell (1796)
  • Outlines of the Globe I., II., III. & IV. (1798 a 1790)

Roedd llawer o ddeunydd The Natural History and Antiquities of Selborne gan Gilbert White (1793) hefyd wedi dod oddi wrth Pennant.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • W. Trevor Parkins, A sketch of the life of the author yn Tours in Wales, argraffiad 1883 (Caernarfon: H. Humphreys).
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: