Treuddyn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Canol pentref Treuddyn.

Pentref a chymuned yn Sir y Fflint yw Treuddyn. Saif fymryn oddi ar ar y briffordd A5104 i'r de o'r Wyddgrug. Cyfeirnod OS: SJ252583. Hen enw'r pentref oedd 'Tryddyn'.

Mae'r gymuned hefyd yn cynnwys pentref Coed-talon, ychydig i'r dwyrain. Ceir nifer o hynafiaethau yn y gymuned, yn cynnwys carneddi o Oes yr Efydd.

Mae'r eglwys, sy'n gysegredig i'r Santes Fair, yn sefyll ar safle eglwys hynafol. Codwyd yr eglwys newydd yn 1875 a dim ond darnau gwydr ffenestr lliw o'r 14eg ganrif sy'n weddill o'r hen eglwys. Ond mae'r llan o gwmpas yr eglwys, darn o dir dyrchafedig o ffurf grwn, yn hen.[1] Cyfeiria Gwyddoniadur Cymru at faen hir ym mynwent yr eglwys, ond does dim sôn am hynny yn yr arolwg o'r safle gan CPAT (Ymddiriedolaeth Archaeoleg Clwyd-Powys).[1]

Ar un adeg roedd cryn dipyn o ddiwydiant yn yr ardal, gyda chloddio am lo, haearn a phlwm. Roedd distyllfa yma i ennill olew o'r glo, ac roedd ffwrnais chwyth yma o 1817 hyd 1865. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 1,567.

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4][5]


Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Treuddyn (pob oed) (1,627)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Treuddyn) (386)
  
24.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Treuddyn) (975)
  
59.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Treuddyn) (230)
  
33.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 1.0 1.1 CPAT
  2. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  3. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  4. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013

Dolenni allanol[golygu]