Gronant
Mae Gronant yn bentref bychan yn Sir y Fflint, gogledd-ddwyrain Cymru. Saif y pentref tua milltir o arfordir gogledd Cymru yng nghornel gogledd-orllewinol eithaf Sir y Fflint, bron ar y ffin â Sir Ddinbych. Mae'n gorwedd rhwng Prestatyn i'r gorllewin a Gwesbyr a Talacre i'r dwyrain.
Tu ôl i'r pentref mae nant yn codi i'r Graig Fawr, y cyntaf o Fryniau Clwyd. Mae lôn dan bont ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru yn arwain o'r pentref i'r traeth a'r tywynnau sy'n ymestyn o Brestatyn i'r Parlwr Du.
Ar y traeth gerllaw Gronant, ceir yr unig fan lle mae'r Forwennol Fechan yn nythu yng Nghymru. Mae'r nythod yn cael eu gwarchod gan wirfoddolwyr.
Abermorddu · Afon-wen · Babell · Bagillt · Bistre · Bretton · Brychdyn · Brynffordd · Bwcle · Caergwrle · Caerwys · Carmel · Cefn-y-bedd · Cei Connah · Cilcain · Coed-llai · Coed-talon · Cymau · Chwitffordd · Ewlo · Y Fflint · Ffrith · Ffynnongroyw · Glan-y-don · Gorsedd · Gronant · Gwaenysgor · Gwernymynydd · Gwernaffield-y-Waun · Gwesbyr · Helygain · Higher Kinnerton · Yr Hob · Licswm · Llanasa · Llaneurgain · Llanferres · Llanfynydd · Llannerch-y-môr · Maes-glas · Mancot · Mostyn · Mynydd Isa · Nannerch · Nercwys · Neuadd Llaneurgain · Oakenholt · Pantasaph · Pant-y-mwyn · Penarlâg · Pentre Ffwrndan · Pentre Helygain · Pen-y-ffordd · Pontblyddyn · Pontybotgyn · Queensferry · Rhes-y-cae · Rhosesmor · Rhyd Talog · Rhyd-y-ceirw · Rhydymwyn · Saltney · Saltney Ferry · Sandycroft · Sealand · Shotton · Sychdyn · Talacre · Treffynnon · Trelawnyd · Trelogan · Treuddyn · Yr Wyddgrug · Ysgeifiog