Llaneurgain
Pentref a chymuned yn Sir y Fflint yw Llaneurgain (Saesneg: Northop), yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Fe'i lleolir hanner ffordd rhwng Yr Wyddgrug a'r Fflint, ar groesffordd 33 ar yr A55, tua 12 milltir i'r gorllewin o ddinas Caer.
Mae ganddo boblogaeth o tua 3000. Ceir dwy dafarn, clwb criced a chlwb golff ynddo. Yng nghanol y pentref saif eglwys Sant Eurgain a Sant Pedr, gyda'i chlochdy'n codi 98 troedfedd uwchben y pentref. Ceir ynddo yn ogystal Coleg Garddwriaeth Cymru.
Yr eglwys [golygu]
Yn ôl traddodiad sefydlwyd yr eglwys yn y 6ed ganrif. Dywedir fod Eurgain, nith Sant Asaph, wedi ei sefydlu ar ben twmpath cynhanesyddol, lle y'i ceir hyd heddiw. Ceir cofnodion codi eglwys o gerrig yn Llaneurgain yn y 12fed ganrif, gyda'r clochdy'n cael ei ychwanegu yn 1571. Cafodd yr adeilad presennol ei atgyweirio'n sylweddol yn 1840 a 1877.
Yn y fynwent ceir hen adeilad ysgol ramadeg Llaneurgain, a godwyd yn yr 16eg ganrif.
Mae'r eglwys yn sedd i blwyf Llaneurgain o hyd, sy'n cynnwys Llaneurgain ei hun, Neuadd Llaneurgain, Sychdyn, Helygain, Rhosesmor, a Mynydd y Fflint. Yn y gorffennol roedd yn cynnwys Cei Connah yn ogystal.
Abermorddu · Afon-wen · Babell · Bagillt · Bistre · Bretton · Brychdyn · Brynffordd · Bwcle · Caergwrle · Caerwys · Carmel · Cefn-y-bedd · Cei Connah · Cilcain · Coed-llai · Coed-talon · Cymau · Chwitffordd · Ewlo · Y Fflint · Ffrith · Ffynnongroyw · Glan-y-don · Gorsedd · Gronant · Gwaenysgor · Gwernymynydd · Gwernaffield-y-Waun · Gwesbyr · Helygain · Higher Kinnerton · Yr Hob · Licswm · Llanasa · Llaneurgain · Llanferres · Llanfynydd · Llannerch-y-môr · Maes-glas · Mancot · Mostyn · Mynydd Isa · Nannerch · Nercwys · Neuadd Llaneurgain · Oakenholt · Pantasaph · Pant-y-mwyn · Penarlâg · Pentre Ffwrndan · Pentre Helygain · Pen-y-ffordd · Pontblyddyn · Pontybotgyn · Queensferry · Rhes-y-cae · Rhosesmor · Rhyd Talog · Rhyd-y-ceirw · Rhydymwyn · Saltney · Saltney Ferry · Sandycroft · Sealand · Shotton · Sychdyn · Talacre · Treffynnon · Trelawnyd · Trelogan · Treuddyn · Yr Wyddgrug · Ysgeifiog