Mynydd Isa

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref gweddol fawr yn Sir y Fflint yw Mynydd Isa. Saif ger y briffordd A549, tua hanner y ffordd rhwng Yr Wyddgrug a Bwcle.

Ar un adeg roedd Bryn-y-Baal (hefyd Bryn-y-Bâl) yn bentref ar wahân, ond yn awr mae'n rhan o Fynydd Isa i bob pwrpas. Y cyngor lleol yw Cyngor Cymunedol Argoed.

Mae ysgol uwchradd yn y pentref, sef Ysgol Uwchradd Argoed. Ceir dwy dafarn hefyd.


CymruFflint.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir y Fflint. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato