Bagillt

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Eglwys y Santes Fair, Bagillt.

Pentref a chymuned yn Sir y Fflint yw Bagillt, rhwng Treffynnon (3 km i'r gorllewin) a'r Fflint (2 km i'r de-ddwyrain). Poblogaeth Cymuned Bagillt yw 3,918 (Cyfrifiad 2001).

Yn y Domesday Book (1086), ei enw oedd Backelie. Benthyciad o'r Saesneg, wedi'i Gymreigio, yw'r enw felly. Mae Backelie yn ffurf ar y Saesneg Bacga's lea 'llannerch Bacga'.[1] Gerllaw, ceir tomen mwnt a beili o'r enw Mwnt Bryn Castell‎.

Tyfodd Bagillt yn gyflym yn y 19eg ganrif. Codwyd Eglwys y Santes Fair yno rhwng 1837 a 1839 fel ymateb i hynny. Poblogaeth y plwyf yn 1901 oedd 2,637.

[golygu] Enwogion

[golygu] Cyfeiriadau

  1. Ifor Williams, Enwau Lleoedd (1945), tud. 6.

[golygu] Dolenni allanol

Comin Wicifryngau
Mae gan Gomin Wicifryngau gyfryngau sy'n berthnasol i:


CymruFflint.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir y Fflint. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill