Llanasa
Pentref bychan, plwyf a chymuned yn Sir Fflint, gogledd-ddwyrain Cymru, yw Llanasa. Mae'n gorwedd tua 300 troedfedd i fyny wrth droed yr olaf o Fryniau Clwyd, tua 2 filltir a hanner i'r dwyrain o Brestatyn yng ngogledd-orllewin Sir Fflint. Y pentrefi cyfagos yw Talacre a Gwesbyr i'r gogledd, Ffynnongroyw i'r dwyrain a Gwaenysgor a Threlawnyd i'r gorllewin.
Mae cymuned Llanasa yn cynnwys pentrefi Talacre, Gronant, Gwesbyr, Trelogan a Ffynnongroyw yn ogystal a phentref Llanasa ei hun, ac mae hefyd yn cynnwys y Parlwr Du, y pwll glo mwyaf yn Sir y Fflint. Roedd poblogaeth y gymuned yn 4,820 yn 2001.
[golygu] Hanes
Enwir y plwyf ar ôl Sant Asa (Asaph). Ceir plasdy Castell Gyrn ar gyrion y pentref.
Yn yr Oesoedd Canol roedd beddfaen a chreiriau Sant Asaph ar gadw yn Eglwys Llanasa cyn iddynt gael eu symud i Eglwys Gadeiriol Llanelwy, rywbryd cyn y flwyddyn 1281. Yn ddiweddarach yn yr Oesoedd Canol, claddwyd Gruffudd Fychan, tad Owain Glyndŵr, yn yr eglwys hynafol hon. Mae ei feddfaen cerfiedig yn goroesi: ceir arno y geiriau Lladin HIC LACET GRVFVD VACHAN ("Yma y gorwedd Gruffudd Fychan"). Yn ôl cofnodion yr eglwys, roedd y garreg hon yn gorwedd yng nghanol y côr deheuol ar un adeg. Ymddengys y cafodd corff Gruffudd Fychan ei gladdu yno tua 1369-1370 (ceir peth ansicrwydd am ddyddiad ei farwolaeth). Mae lleoliad ei weddillion yn anhysbys heddiw.[1]
[golygu] Enwogion
Ganwyd a magwyd y croniclydd a chyfieithydd Elis Gruffydd (c.1490-c.1552) yn Llanasa.
[golygu] Cyfeiriadau
Abermorddu · Afon-wen · Babell · Bagillt · Bistre · Bretton · Brychdyn · Brynffordd · Bwcle · Caergwrle · Caerwys · Carmel · Cefn-y-bedd · Cei Connah · Cilcain · Coed-llai · Coed-talon · Cymau · Chwitffordd · Ewlo · Y Fflint · Ffrith · Ffynnongroyw · Glan-y-don · Gorsedd · Gronant · Gwaenysgor · Gwernymynydd · Gwernaffield-y-Waun · Gwesbyr · Helygain · Higher Kinnerton · Yr Hob · Licswm · Llanasa · Llaneurgain · Llanferres · Llanfynydd · Llannerch-y-môr · Maes-glas · Mancot · Mostyn · Mynydd Isa · Nannerch · Nercwys · Neuadd Llaneurgain · Oakenholt · Pantasaph · Pant-y-mwyn · Penarlâg · Pentre Ffwrndan · Pentre Helygain · Pen-y-ffordd · Pontblyddyn · Pontybotgyn · Queensferry · Rhes-y-cae · Rhosesmor · Rhyd Talog · Rhyd-y-ceirw · Rhydymwyn · Saltney · Saltney Ferry · Sandycroft · Sealand · Shotton · Sychdyn · Talacre · Treffynnon · Trelawnyd · Trelogan · Treuddyn · Yr Wyddgrug · Ysgeifiog