Maes-glas

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Pwll ym Mharc Treftadaeth Maes-glas.

Pentref yn Sir y Fflint, gogledd-ddwyrain Cymru, yw'r Maes-glas (Saesneg: Greenfield).

Gorwedd y pentref tua milltir i'r gogledd o Dreffynnon, ar yr arfordir rhwng Mostyn i'r gorllewin a'r Fflint i'r dwyrain. Rhed y ffordd A548 trwy'r pentref. Mae lôn fechan yn mynd trwy dwnel dan Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru i lan aber Afon Dyfrdwy.

Ar gyrion y pentref ceir safle Abaty Dinas Basing. Saif ym Mharc Treftadaeth Maes-glas ("Greenfield Valley"), i'r gorllewin o'r pentref, sy'n atyniad twristaidd.

Enwogion [golygu]

  • Henri Perri (1560/1–1617), un o ysgolheigion Cymreig y Dadeni Dysg, awdur Eglvryn Phraethineb.


CymruFflint.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir y Fflint. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato