Abaty Dinas Basing

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Abaty Dinas Basing.

Abaty canoloesol yn Sir y Fflint yw Abaty Dinas Basing. Saif ger pentref Maes-glas, i'r gogledd o dref Treffynnon, ym Mharc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas, ac mae yng ngofal Cadw. Yn yr Oesoedd Canol gorweddai yng nghwmwd Cwnsyllt, cantref Tegeingl.

Sefydlwyd yr abaty ym 1132 gan Iarll Caer, gyda mynachod o Savigny. Fe'i sefydlwyd ar safle gwahanol, ond roedd wedi ei ail-sefydlu ar y safle presennol cyn 1157. Ym 1147 daeth yn rhan o Urdd y Sistersiaid, o dan Abaty Buildwas. Yn y drydedd ganrif ar ddeg roedd Llywelyn Fawr yn noddwr i'r abaty, a rhoddwyd Ffynnon Gwenffrewi i'r abaty gan ei fab, Dafydd ap Llywelyn. Caewyd y fynachlog ym 1536.

Awyrlun o'r abaty.

Roedd gan nifer o Feirdd yr Uchelwyr gysylltiad ag Abaty Dinas Basing. Cysylltir yr abaty â Llyfr Du Basing, llawysgrif a ysgrifennwyd gan y bardd Gutun Owain (bl. 1460-1500). Roedd yr abaty yn arbennig o lewyrchus dan yr abad olaf ond un, Thomas Pennant, oedd yn nodedig fel noddwr beirdd.

Dolenni allanol[golygu]