Thomas Pennant (abad)

Oddi ar Wicipedia
Thomas Pennant
Ganwyd1480s Edit this on Wikidata

Thomas Pennant neu Tomos ap Dafydd Pennant (bl. c. 1480 - c.1515/22) oedd abad olaf ond un Abaty Dinas Basing yn Sir Fflint.

Roedd o deulu bonheddig, sef Pennantiaid Bychtwn, Sir y Fflint. Daeth yr abaty yn gyfoethog dan ei reolaeth ef, ac roedd yn adnabyddus fel noddwr Beirdd yr Uchelwyr. Canodd Gutun Owain, Tudur Aled a Siôn ap Hywel ap Llywelyn Fychan gerddi mawl iddo. Dilynwyd ef fel abad gan ei fab. Roedd ei frawd Huw Pennant yn fardd, offeiriad a chyfieithydd.