Moses Griffith

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Arlunydd Cymraeg oedd Moses Griffith (25 Mawrth 1747 - 11 Tachwedd 1819).[1][2] Ganed ef ym mhentref Trygarn, gerllaw Bryncroes ym Mhen Llŷn. Cafodd ychydig o addysg yn ysgol rad Botwnnog. Yn 1769, yn 22 oed, cyflogwyd ef fel gwas gan Thomas Pennant. Cyn hir sylweddolodd Pennant fod ganddo dalent fel arlunydd, ac aeth Pennant a Griffith gydag ef ar ei deithiau, er mwyn iddo fedru paratoi lluniau ar gyfer ei lyfrau. Ei waith ef yw'r ysgythriadau mewn cyfrolau megis Tours in Wales.[3] Wedi i Thomas Pennant farw 1798 bu Moses Griffith yn gweithio i'w fab, David Pennant. Mae cryn nifer o luniau dyfrlliw o'i waith ar gael, er enghraifft yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn yr Amgueddfa Brydeinig ac Amgueddfa Victoria ac Albert yn Llundain.

Bu farw ar 11 Tachwedd 1819 a claddwyd ym mynwent Capel Chwitffordd, Sir Fflint,[4] lleolir ei fedd wrth wal ffin gogleddol y fynwent ac mae plac diweddar yno.[5]

Dolenni allanol [golygu]

Ffynonellau [golygu]

  1.  Thomas Pennant Journey to Snowdon. Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
  2.  Griffith, Moses, 1747-1819: Artist and Illustrator in the Service of Thomas Pennant.
  3.  'Capel Curig' gan Moses Griffiths, 1806 (dyfrlliw). Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth: Casglu'r Tlysau.
  4.  Cerdded Cymru - the Welsh Walks Guide. Cymdeithas y Cerddwyr yng Nghymru / Ramblers Association Wales.
  5.  Church of St Mary and St Beuno, Whitford. Flintshire Churches Survey.