Sealand, Sir y Fflint

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref a chymuned yn Sir y Fflint yw Sealand. Nid ymddengys fod enw Cymraeg iddo; daw'r enw oherwydd ei fod ar dir a enillwyd oddi wrth y môr. Saif ger glan ogleddol Afon Dyfrdwy, ar y briffordd A548 i'r dwyrain o Queensferry ac i'r gogledd-orllewin o ddinas Caer.

Mae'r gymuned hefyd yn cynnwys Sealand Garden City, a sefydlwyd yn 1910 ar gyfer gweithwyr yng Ngwaith Dur John Summers. Wedi i'r gwaith dur gau yn 1979, sefydlwyd Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy. Yn y gymuned yma hefyd mae Maes Awyr Sealand, sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer gleiderau. Roedd poblogaeth y gynuned yn 2001 yn 2,746.