Gwesbyr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Bythynnod, Gwesbyr.

Mae Gwesbyr (amrywiad: Gwespyr) yn bentref ym mhen gogleddol Sir y Fflint ger arfordir gogledd-ddwyrain Cymru. Fe'i lleolir rhwng Prestatyn 4 km i'r gorllewin a Ffynnongroyw i'r dwyrain ar y lôn A548. Fymryn i'r gogledd mae Talacre a'r Parlwr Du ac i'r de mae pentref Llanasa.

I'r gorllewin o'r pentref mae Bryniau Clwyd yn codi.

Yn ôl Syr Ifor Williams, mae'r enw yn ei naill ffordd, yn amrywiad Cymraeg o'r enw lle Saesneg Westbury.[1] Fel nifer o enwau lleoedd eraill yr ardal, megis Prestatyn, Bagillt, a Bistre, mae'r enw o darddiad Saesneg wedi'i Gymreigio pan newidiodd iaith yr ardal o'r Saesneg i'r Gymraeg yn y cyfnod Eingl-Sacsonaidd.

Cyfeiriadau [golygu]

  1. Ifor Williams, Enwau Lleoedd (Lerpwl, 1945), t. 10.

Dolenni allanol [golygu]