Talacre

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Talacre

Mae Talacre yn bentref ym mhen gogleddol eithaf Sir y Fflint ar arfordir gogledd-ddwyrain Cymru. Mae'n rhan o gymuned Llanasa. Fe'i lleolir fymryn i'r de o'r Parlwr Du ar lan orllewinol Glannau Dyfrdwy, tua hanner ffordd rhwng Prestatyn i'r gorllewin a Ffynnongroyw i'r dwyrain. Mae ganddo draeth tywodlyd a sawl maes carafan gerllaw.

Tu ôl i'r pentref cyfyd bryniau cyntaf Bryniau Clwyd, gan ffurfio ymyl ddwyreiniol Dyffryn Clwyd. Ceir goleudy i'r gogledd o'r pentref, ger y Parlwr Du.

Mae Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru yn mynd heibio hanner milltir i'r de o'r pentref, ar y lôn iddo o bentref Gwesbyr, ond does dim gorsaf yno.

CymruFflint.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir y Fflint. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato