Neuadd Llaneurgain

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref a chymuned yn Sir y Fflint yw Neuadd Llaneurgain (Saesneg: Northop Hall). Ar un adeg, defnyddid yr enw Pentre Moch am ran ddwyreiniol y gymuned. Saif rhwng Cei Connah a Llaneurgain, fymryn i'r gogledd o'r briffordd A55, ar y ffordd B5125.

Roedd nifer o lofeydd yn yr ardal yn y 19eg ganrif. Cwmni Dublin & Irish a ddechreuodd y cloddfeydd, ac allforid y glo i Iwerddon o Gei Connah. Roedd poblogaeth y gynuned yn 2001 yn 1,685.


CymruFflint.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir y Fflint. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato