Yr Hôb

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y ffordd i mewn i'r Hôb

Pentref a chymuned yn Sir y Fflint yw Yr Hôb (Saesneg: Hope), yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Mae ganddo boblogaeth o 2,522 (2001).

Gorwedd y pentref tua 4.5 km o'r ffin â Lloegr (Swydd Gaer), ar lannau Afon Alun. Mae'r Hob yn un o grŵp bychan o bentrefi lleol sy'n perthyn yn agos iawn i'w gilydd, yn cynnwys Caergwrle, Abermorddu a Cefn-y-Bedd. Prif dirffurf yr ardal yw Mynydd yr Hob, i'r gorllewin o'r pentref, gyda chwarel arno sydd wedi cau bellach.

Lleolir Ysgol Uwchradd Castell Alun yn y pentref; ceir ysgol gynradd yn ogystal, sef Ysgol Estyn.

Mae cysylltiadau cludiant da yn cysylltu'r Hôb a lleoedd fel Wrecsam, Caer a'r Wyddgrug, ac mae Reilffordd y Gororau yn ei gysylltu â Lerpwl i'r gogledd-ddwyrain.

Weithiau cyfeirir at Gastell Caergwrle fel "Castell yr Hôb", am ei fod yn gorwedd rhwng y ddau le.

CymruFflint.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir y Fflint. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato