Carl Sagan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Carl Sagan ym 1980

Seryddwr, astroffisegydd, cosmolegydd, ac awdur o Americanwr oedd Carl Edward Sagan (9 Tachwedd 1934 – 20 Rhagfyr 1996) oedd yn enwog am boblogeiddio a chyfathrebu gwyddorau'r gofod a natur.[1] Cyhoeddodd mwy na 600 o draethodau gwyddonol ac erthyglau poblogaidd a mwy nag 20 o lyfrau. Hyrwyddodd ymchwil sgeptigol a'r dull gwyddonol yn ei waith. Arloesodd astrofioleg ac roedd wrth flaenllaw SETI, sy'n ceisio chwilio am fywyd y tu hwnt i'r Ddaear. Cyflwynodd y gyfres deledu Cosmos: A Personal Voyage, ac ysgrifennodd y nofel Contact.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. (Saesneg) Dicke, William (21 Rhagfyr 1996). Carl Sagan, an Astronomer Who Excelled at Popularizing Science, Is Dead at 62. The New York Times. Adalwyd ar 28 Rhagfyr 2012.