Brooklyn
| Brooklyn | |
|---|---|
| Lleoliad o fewn Talaith Efrog Newydd | |
| Gwlad | Unol Daleithiau America |
| Ardal | Efrog Newydd |
| Llywodraeth | |
| Awdurdod Rhanbarthol | Awdurdod Dinas Efrog Newydd |
| Maer | Marty Markowitz |
| Daearyddiaeth | |
| Arwynebedd | 251 km² |
| Demograffeg | |
| Poblogaeth Cyfrifiad | 2,556,598 (Cyfrifiad [[]]) |
| Dwysedd Poblogaeth | 13,481.4 /km2 |
| Gwybodaeth Bellach | |
| Cylchfa Amser | EST (UTC-5) |
| Cod Post | 112 + dau rif |
| Gwefan | http://www.brooklyn-usa.org/index.htm |
Un o bump bwrdeisdref Dinas Efrog Newydd, wedi'i leoli i'r de-orllewin o Queens ar ymyl orllewinol Long Island ydy Brooklyn. Enwyd y bwrdeisdref ar ôl y dref Iseldireg Breukelen). Yn dref annibynnol tan iddi gael ei uno gydag Efrog Newydd ym 1898, Brooklyn ydy bwrdeisdref fwyaf poblog Dinas Efrog Newydd, gyda 2.5 miliwn o drigolion. Hyhi yw'r ail fwrdeisdref fwyaf o ran arwynebedd hefyd. Ers 1896, bu gan Brooklyn yr un ffiniau a Swydd Kings, sydd yn bellach yn sir fwyaf poblog Talaith Efrog Newydd a'r ail sir gyda'r dwysedd poblogaeth uchaf yn yr Unol Daleithiau ar ôl Swydd Efrog Newydd (Manhattan).
Er ei fod yn rhan o Ddinas Efrog Newydd, mae gan Brooklyn ei ddiwylliant unigryw ei hun, yn ogystal â bywyd celfyddydol annibynnol a threftadaeth pensaernïol unigryw. Mae nifer o gymdogaethau Brooklyn yn lecynnau ethnig lle mae'r mwyafrif o'r trigolion yn perthyn i grŵpiau ethnig a diwylliannau penodol.