Mur Berlin

Oddi ar Wicipedia
Mur Berlin
Mur Berlin, Tachwedd 1975
Mathcordon, cyn-adeilad, atyniad twristaidd, fortified line, separation barrier Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 13 Awst 1961 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolffin fewnol yr Almaen, Y Llen Haearn Edit this on Wikidata
SirBerlin, Dwyrain Berlin Edit this on Wikidata
GwladGorllewin yr Almaen, Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen, yr Almaen Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.5044°N 13.4411°E Edit this on Wikidata
Hyd155 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethHeritage monument in Berlin Edit this on Wikidata
Cost100,000,000 Edit this on Wikidata
Manylion
DeunyddConcrit cyfnerthedig Edit this on Wikidata

Mur Berlin oedd yr enw answyddogol a roddwyd ar y mur anferth a godwyd ym 1961 ym Merlin rhwng Gorllewin Berlin a Dwyrain Berlin i atal ffoaduriaid rhag croesi i'r Gorllewin. Serch hynny, honnodd llywodraeth y Dwyrain i'r mur gael ei adeiladu er mwyn amddiffyn Dwyrain Berlin rhag "ffasgwyr" y Gorllewin. Am ddegawdau roedd Mur Berlin yn symbol o'r rhwyg rhwng Dwyrain a Gorllewin Ewrop a rhwng y Gorllewin a'r Byd Comiwnyddol yn gyffredinol.

Yn ystod cyfnod bodolaeth y mur, dihangodd tua 5000 o bobl dros y mur yn llwyddiannus. Mae rhyw ddadl am nifer y bobl a gollodd eu bywydau wrth iddynt geisio dianc. Yn ôl Alexandra Hildebrandt, cyfarwyddwr Amgueddfa Checkpoint Charlie, mwy na 200 o bobl fu farw; ond mae amcangyfrifion eraill yn is.

Ym mis Tachwedd 1989 chwalwyd rhan sylweddol o'r mur gan Almaenwyr cyffredin. Dyma un o ddigwyddiadau hanesyddol mwyaf yr 20g sy'n symboleiddio diwedd y Rhyfel Oer a'r newid mawr a fu yng ngwledydd Cytundeb Warsaw ac Ewrop gyfan yn sgil hynny.

Mur Berlin
Eginyn erthygl sydd uchod am yr Almaen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.