Dwyrain Berlin
Oddi ar Wicipedia
Rhan ddwyreiniol dinas Berlin rhwng 1949 a 1990 oedd Dwyrain Berlin. Olynodd y sector Sofietaidd o Ferlin a sefydlwyd pan feddiannwyd y ddinas gan y Cynghreiriaid yn dilyn diwedd yr Ail Ryfel Byd. Daeth y sectorau Americanaidd, Prydeinig, a Ffrengig yn Orllewin Berlin. Rhannodd Mur Berlin y ddau hanner o'r ddinas.