Cysylltiadau rhwng NATO a Ffederasiwn Rwsia

Oddi ar Wicipedia
Cysylltiadau rhwng NATO a Ffederasiwn Rwsia
Enghraifft o'r canlynolbilateral relation Edit this on Wikidata
Mathdiplomatic relations Edit this on Wikidata
GwladwriaethRwsia Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Anders Fogh Rasmussen (chwith), Ysgrifennydd Cyffredinol NATO, a Dmitry Medvedev, Arlywydd Rwsia

Yn ystod trefn ddeubegwn y Rhyfel Oer, roedd yr Unol Daleithiau a chynghrair milwrol NATO yn ffurfio un bloc o rym yn y Gorllewin, tra bo'r Undeb Sofietaidd a chyngrair Cytundeb Warsaw yn ffurfio'r Bloc Dwyreiniol. Ers cwymp yr Undeb Sofietaidd ym 1991 mae cysylltiadau rhwng NATO a Ffederasiwn Rwsia, y brif wladwriaeth olynol Sofietaidd, wedi bod yn bwnc pwysig yng nghysylltiadau rhyngwladol.

Sefydlu cysylltiadau[golygu | golygu cod]

Dechreuodd cysylltiadau ffurfiol rhwng NATO a Rwsia ym 1991 pan ymunodd Rwsia â Chyngor Cydweithrediad Gogledd yr Iwerydd, a elwir bellach yn Gyngor Partneriaeth yr Ewro-Iwerydd. Ymunodd Rwsia â'r Bartneriaeth dros Heddwch ym 1994.

Rhyfel Cosofo[golygu | golygu cod]

Roedd ymyrraeth NATO yn Rhyfel Cosofo ym 1999 yn isafbwynt yng nghysylltiadau rhwng NATO a Rwsia. Yn ôl nifer o adroddiadau, cafodd Rwsia sicrhâd gan NATO wrth i'r Rhyfel Oer dod i ben na fydd y gynghrair yn ehangu i'r dwyrain, ond o safbwynt Rwsia bu NATO yn llechfeddiannu'n raddol ar dir oedd yn draddodiadol o fewn maes dylanwad Moscfa. Ym Mawrth 1998 pleidleisiodd Rwsia dros Benderfyniad 1160 Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig i osod embargo arfau ar Iwgoslafia er mwyn ceisio leddfu gwrthdaro rhwng lluoedd Serbiaidd a Byddin Rhyddhau Cosofo. Gobeithiodd Rwsia bydd hyn yn gynnig terfynol i'r Arlywydd Milošević fel na fydd angen am ymyrraeth filwrol yn Iwgoslafia.[1]

Ym Mawrth 1999, dechreuodd NATO ymgyrch fomio yn Iwgoslafia o'r enw Ymgyrch Grym Cynghreiriol. Gwrthwynebodd Rwsia ymyrraeth gan NATO, yn rhannol oherwydd ei chysylltiadau hanesyddol â'i chyd-genedl Slafaidd Serbia, ond hefyd oherwydd pryderon dros weithredoedd gan NATO y tu allan i'w gororau.[2] O ganlyniad i Ymgyrch Grym Cynghreiriol, gohiriodd Rwsia ei gyfranogaeth yng Nghyd-Gyngor Parhaol NATO–Rwsia a'r Bartneriaeth dros Heddwch. Bwriad cychwynnol Rwsia oedd i danseilio ymyrraeth NATO, ond yn y bôn cynorthwyodd y gynghrair wrth geisio cael datrysiad diplomyddol i'r gwrthdaro. Wedi diwedd y rhyfel, bu anghydfod ym Maes Awyr Pristina, prifddinas Cosofo, rhwng lluoedd NATO a Rwsia, oedd yn isafbwynt arall yn eu cysylltiadau.

Cyngor NATO–Rwsia[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd Cyngor NATO–Rwsia yn 2002.

Ehangu NATO[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd: Ehangu NATO.

Un o'r prif achosion dros densiynau rhwng NATO a Rwsia yw'r anghydfod dros ehangu NATO i gynnwys gwladwriaethau yn Nwyrain Ewrop a'r Cawcasws, yn enwedig yr Wcrain a Georgia. Mae Rwsia yn ystyried y gwledydd hyn yn rhan o'i maes dylanwad, "y tramor cyfagos".

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Smith (2006), tt. 77–88.
  2. Medcalf (2005), t. 162.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • Medcalf, J. NATO: A Beginner’s Guide (Rhydychen, Oneworld, 2005).
  • Smith, M. A. Russia and NATO since 1991 (Llundain, Routledge, 2006).

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Norris, J. Collision Course: NATO, Russia, and Kosovo (Westport, CT, Praeger, 2005).

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia