Ysgrifennydd Cyffredinol NATO
Oddi ar Wicipedia
Yr Ysgrifennydd Cyffredinol Anders Fogh Rasmussen (dde) yn Uwchgynhadledd 2004 Istanbul, pum mlynedd cyn ei benodiad i'r swydd
Diplomydd rhyngwladol sydd yn gwasanaethu fel prif swyddog NATO yw Ysgrifennydd Cyffredinol NATO. Mae'n gyfrifol am gydgysylltu gwaith y cynghrair, yn bennaeth Cyngor Gogledd yr Iwerydd, yn brif lefarydd y cynghrair, ac yn arwain staff NATO. Anders Fogh Rasmussen, cyn-Brif Weinidog Denmarc, yw Ysgrifennydd Cyffredinol cyfredol NATO.
Rhestr [golygu]
- Yr Arglwydd Ismay (Y Deyrnas Unedig): 4 Ebrill, 1952 - 16 Mai, 1957
- Paul-Henri Spaak (Gwlad Belg): 16 Mai, 1957 - 21 Ebrill, 1961
- Dirk Stikker (Yr Iseldiroedd): 21 Ebrill, 1961 - 1 Awst, 1964
- Manlio Brosio (Yr Eidal): 1 Awst, 1964 - 1 Hydref, 1971
- Joseph Luns (Yr Iseldiroedd): 1 Hydref, 1971 - 25 Mehefin, 1984
- Yr Arglwydd Carington (Y Deyrnas Unedig): 25 Mehefin, 1984 - 1 Gorffennaf, 1988
- Manfred Wörner (Yr Almaen): 1 Gorffennaf, 1988- 13 Awst, 1994
- Sergio Balanzino (Yr Eidal, gweithredol): 13 Awst - 17 Hydref 1994
- Willy Claes (Gwlad Belg): 17 Hydref, 1994 - 20 Hydref, 1995
- Sergio Balanzino (Yr Eidal, gweithredol): 20 Hydref - 5 Rhagfyr, 1995
- Javier Solana (Sbaen): 5 Rhagfyr, 1995 - 6 Hydref, 1999
- George Robertson (Y Deyrnas Unedig): 14 Hydref, 1999 - 1 Ionawr, 2004
- Jaap de Hoop Scheffer (Yr Iseldiroedd): 1 Ionawr, 2004 - 1 Awst 2009
- Anders Fogh Rasmussen (Denmarc): 1 Awst, 2009 - presennol.