Cyn-weriniaethau'r Undeb Sofietaidd

Oddi ar Wicipedia
Cyn-weriniaethau'r Undeb Sofietaidd
Enghraifft o'r canlynolardal ddiwylliannol, geopolitical group Edit this on Wikidata
DechreuwydChwefror 1992 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganYr Undeb Sofietaidd Edit this on Wikidata
LleoliadEstonia, Latfia, Lithwania, Casachstan, Cirgistan, Tajicistan, Tyrcmenistan, Wsbecistan, Belarws, Moldofa, Wcráin, Rwsia, Armenia, Aserbaijan, Georgia Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cyn-weriniaethau'r Undeb Sofietaidd:
1. Armenia; 2. Aserbaijan; 3. Belarws; 4. Estonia;
5. Georgia; 6. Casachstan; 7. Cirgistan; 8. Latfia;
9. Lithwania; 10. Moldofa; 11. Ffederasiwn Rwsia; 12. Tajicistan;
13. Tyrcmenistan; 14. Wcrain; 15. Wsbecistan

Y 15 gwladwriaeth annibynnol a ddaeth allan o ddiddymiad yr Undeb Sofietaidd yn Rhagfyr 1991 yw cyn-weriniaethau'r Undeb Sofietaidd.

Yn iaith wleidyddol Ffederasiwn Rwsia a rhai o gyn-weriniaethau eraill yr Undeb Sofietaidd, mae'r term y tramor cyfagos yn cyfeirio at y gweriniaethau newydd-annibynnol a ddaeth allan o ddiddymiad yr Undeb Sofietaidd, ac weithiau gwledydd cyfagos eraill megis y Ffindir a Mongolia. Poblogeiddiodd Andrey Kozyrev, Gweinidog Tramor Rwsia, y term ar ddechrau'r 1990au i gyfeirio at ganolbarth a dwyrain Ewrop, a defnyddir y term yn aml, er enghraifft gan Vladimir Putin, i ddisgrifio ardal sydd yn strategol bwysig i Rwsia ac yn rhan o'i maes dylanwad. Defnyddir i gyfeirio at nifer o wledydd yn Nwyrain Ewrop, y Cawcasws, Canolbarth Asia, ac hyd yn oed y gwledydd Baltig er bod y rhain yn tueddu i wahanu eu hunain o Foscfa ar y lwyfan ryngwladol heddiw.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am gysylltiadau rhyngwladol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.