Dmitry Medvedev

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Дмитрий Медведев
Dmitry Medvedev
Dmitry Medvedev

Cyfnod yn y swydd
7 Mai 2008 – 7 Mai 2012
Rhagflaenydd Vladimir Putin

Geni 14 Medi 1965
Leningrad

Dmitry Anatolyevich Medvedev (Rwsieg, Дмитрий Анатoльевич Медведев; ganed 14 Medi 1965) yw Arlywydd cyfred Rwsia, er 7 Mai, 2008. Enillodd etholaeth arlywyddol Rwsia 2008, a gynhaliwyd ar 2 Mawrth 2008, gyda tua 70% o'r bleidlais.

Cafodd ei apwyntio yn Ddirpwy Brif Weinidog Llywodraeth Rwsia ar 14 Tachwedd, 2005. Yn gyn bennaeth staff i Vladimir Putin, roedd hefyd yn gadeirydd bwrdd cyfarwyddwyr Gazprom, swydd y mae wedi dal (am yr ail dro) ers 2000. Ar 10 Rhagfyr, 2007, cafodd ei gefnogi yn answyddogol fel ymgeisydd am arlywyddiaeth Rwsia (etholiad 2008) gan Rwsia Unedig, y blaid wleidyddol fwyaf yn Rwsia, a chafodd ei enwebiad ei gefnogi yn swyddogol gan y blaid honno ar 17 Rhagfyr, 2007. Cefnogwyd ymgeisyddiaeth Medvedev gan yr arlywydd ar y pryd, yr Arlywydd Vladimir Putin, a phleidiau gwleidyddol eraill sy'n gefnogol iddo.[1] Fel technocrat ac apwyntydd gwleidyddol, nid oedd Medvedev erioed wedi dal swydd wleidyddol etholedig cyn 2008. Mae'n cael ei weld fel protégé Putin, wedi ei baratoi ganddo ar gyfer y swydd: un o'i benderfyniadau cyntaf oedd cynnig swydd Prif Weinidog Rwsia i Putin.

Cyfeiriadau [golygu]

  1. "Putin sees Medvedev as successor" BBC News

Dolenni allanol [golygu]

Baner RussiaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Rwsiad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.