Lisbon
Oddi ar Wicipedia
Prifddinas Portiwgal yw Lisbon neu Lisboa (Lisboa yw'r enw Portiwgaleg). Fe'i lleolir ar yr arfordir gorllewinol yng nghanolbarth Portiwgal. Hon yw canolfan fasnachol, gwleidyddol a diwylliannol y wlad. Mae'n gartref i lywodraeth Portiwgal ynghyd â saith prifysgol. Porthladd pwysica'r wlad yw Lisbon hefyd. Mae gan y ddinas ei hun boblogaeth o 564,477, gyda tua 2.8 miliwn yn yr ardal fetropolitanaidd.
Mae Pont Vasco da Gama, pont hwyaf Ewrop, yn croesi Afon Tagus (Afon Tejo) yn Lisbon, yn cysulltu'r ddinas â de Portiwgal. Ei hyd yw 17.2 km (10.7 milltir).
Adeiladau a chofadeiladau [golygu]
- Eglwys gadeiriol
- Gare do Oriente
- Mynachdy Jerónimos (gyda'r bedd Vasco da Gama)
- Oceanarium
- Padrão dos Descobrimentos
- Pont 25 de Abril
- Tŵr Belém
Enwogion o Lisbon [golygu]
- Pab Ioan XXI (1215-1277)
- Nuno Valente (g. 1974), chwaraewr pêl-droed
Gweler hefyd [golygu]