São Tomé (dinas)
Oddi ar Wicipedia
São Tomé (Portiwgaleg, yn golygu "Sant Tomos") yw prifddinas São Tomé a Príncipe yng Nghanolbarth Affrica. Saif ger yr arfordir yng ngogledd-ddwyrain ynys São Tomé. Roedd y boblogaeth yn 53,000 yn 2004.
Mae São Tomé yn borthladd pwysig, yn allforio bananas, coco a copra. Sefydlwyd y ddinas gan y Portiwgeaid yn 1485. Mae'r eglwys gadeiriol yn dyddio o'r 16eg ganrif, a cheir palas yr Arlywydd yn São Tomé.
[golygu] Adeiladau a chofadeiladau
- Eglwys gadeiriol
- Eglwys y pysgodwyr
- Palas yr Arlywydd