Panaji

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lleoliad Panaji (seren) yn Goa

Prifddinas talaith Goa, India yw Panaji (Konkaneg: पणजी , IPA: /pɵɳɟĩ/ ). Lleolir ar lannau aber afon Mandovi, yng ngogledd Goa. Mae gan y ddinas boblogaeth o 65,000 (a phoblogaeth metropolitanaidd o 100,000 os cynhwysir y maesdrefi), gan wneud Panaji yn drydedd ddinas fwyaf Goa ar ôl Vasco a Margao.

Etymoleg[golygu]

Ar hyn o bryd, enw swyddogol y ddinas yw Panaji. Yr enw Portiwgaleg, o gyfnod rheolaeth Portiwgal ar Goa, oedd Pangim. Gelwir y ddinas yn Panjim yn Saesneg. Ers y 1960au mae wedi cael ei sillafu fel Panaji a chaiff ei alw'n Ponnje yn Konkani, prif iaith yr ardal leol.

Flag of India.svg Eginyn erthygl sydd uchod am India. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.