Bissau

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Bissau ar lan Afon Geba

Bissau yw prifddinas Gweriniaeth Guiné-Bissau yng Ngorllewin Affrica. Saif ar aber Afon Geba. Bissau yw dinas fwyaf a phorthladd pwysicaf y wlad.

Sefydlwyd Bissau gan y Portiwgaliaid yn 1687. Daeth yn brifddinas Guiné Bortiwgalaidd yn 1941.

Flag of Guinea-Bissau.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Guiné-Bissau. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.