Pont Vasco da Gama

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Golygfa o'r bont o Dŵr Vasco da Gama

Pont sy'n croesi Afon Tagus (Afon Tejo) ger Lisbon ym Mhortiwgal yw Pont Vasco da Gama. Pont hwyaf Ewrop yw hi: ei hyd yw 17.2 km (10.7 milltir). Agorwyd y bont ar 29 Mawrth 1998, ddeufis cyn Expo 98. Mae'i enw yn dathlu pumcanmlwyddiant darganfyddiad ffordd dros y môr o Ewrop i India gan Vasco da Gama.

Y bont drwy'r niwl.
Flag of Portugal.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Bortiwgal. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.