Salvador, Brasil

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Am leoedd eraill o'r un ewn gweler Salvador. Gweler hefyd San Salvador a São Salvador.
Harbwr Salvador o'r bae

Dinas ar lan Cefnfor Iwerydd yng ngogledd-ddwyrain Brasil a phrifddinas talaith Bahia yw Salvador (enw hanesyddol, São Salvador da Baía de Todos os Santos neu Salvador de Bahia; weithiau Bahia yn unig ar hen fapiau ac mewn llyfrau a gyhoeddwyd cyn canol yr 20fed ganrif). Mae'n enwog ym Mrasil am ei charnifal a'i diwylliant poblogaidd, ei cherddoriaeth a'i phensaerniaeth. Salvador oedd prifddinas gyntaf gwladfa Bortiwgalaidd Brasil, ac mae'n un o'r hynaf yn y wlad honno ac un o'r dinasoedd Ewropeaidd hynaf yn y Byd Newydd. Gyda phoblogaeth o 2,892,605 (2007), dyma'r ddinas drydedd fwyaf poblog ym Mrasil, ar ôl São Paulo a Rio de Janeiro, a'r wythfed felly yn America Ladin, ar ôl Dinas Mexico, São Paulo, Buenos Aires, Lima, Bogotá, Rio de Janeiro a Santiago de Chile.

Mae dros 80% o boblogaeth Salvador o dras etnig Affricanaidd, ac mae'n brif ganolfan y diwylliant Affro-Frasilaidd. Mae canol Salvador, y 'Pelourinho', yn nodweddol am ei adeiladau hanesyddol, yn cynnwys Eglwys Gadeiriol Salvador, ac mae wedi cael ei dynodi gan UNESCO yn Safle Treftadaeth y Byd ers 1985.

Gweler hefyd[golygu]

Dolenni allanol[golygu]

Flag of Brazil.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Frasil. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.