Dinas Mexico
Oddi ar Wicipedia
Dinas Mexico (Sbaeneg: Ciudad de México yw prifddinas Mexico. Cyfeirir ati yn aml fel Mexico, D.F. (Distrito Federal). Hi yw dinas fwyaf Mexico, ac un o ddinasoedd mwyaf y byd, gyda phoblogaeth y ddinas ei hun yn 8,720,916 yn 2005. Roedd poblogaeth yr ardal fetropolitaidd yn 19,311,365 yn yr un flwyddyn.
Cyn i'r Sbaenwyr gyrraedd, yma yr oedd safle dinas Tenochtitlan. Yn 1519 cyrhaeddodd y Sbaenwyr o dan Hernán Cortés, a chyn hir roeddynt wedi cipio grym yn y ddinas. Wedi i Fexico ennill ei hannibyniaeth oddi wrth Sbaen, daeth Dinas Mexico yn brifddinas y wlad.
Adeiladau a chofadeiladau [golygu]
- Amgueddfa Estanquillo
- El Ángel (Angel Annibyniaeth)
- Castell Chapultepec
- Clwysty La Merced
- Colegio Nacional
- Eglwys gadeiriol
- Eglwys Nuestra Señora de Loreto
- Palacio Nacional
- Palas Iturbide
- Tai Mayorazgo de Guerrero
- Torres de Satélite
Enwogion [golygu]
- Frida Kahlo (1907-1954), arlunydd
- Pedro Armendáriz (1912-1963), actor
- Luis Echeverría (g. 1922), gwleidydd
- Laura Esquivel (g. 1950), awdures
- Mario Van Peebles (g. 1957), actor
|
|
||
|---|---|---|
| Aguascalientes · Baja California · Baja California Sur · Campeche · Chiapas · Chihuahua · Coahuila · Colima · Durango · Guanajuato · Guerrero · Hidalgo · Jalisco · Michoacán · Morelos · Nayarit · Nuevo León · Oaxaca · Puebla · Querétaro · Quintana Roo · San Luis Potosí · Sinaloa · Sonora · Tabasco · Talaith Mexico · Tamaulipas · Tlaxcala · Veracruz · Yucatán · Zacatecas | ||
| Distrito Federal | ||