Arequipa
Oddi ar Wicipedia
Arequipa yw ail ddinas Periw, ar ôl y brifddinas, Lima. Hi yw prifddunas talaith Arequipa. Roedd y boblogaeth yn 2007 yn 749,291.
Saif ar afon Chili, gyda tri llosgfynydd gerllaw, yr enwocaf ohonynt, Misti, yn cyrraedd uchder o 5,821 medr. Mae yn rhan ddeheuol y wlad, 1000 km o Lima, a 300 km i'r gogledd o'r ffîn a Chile, 2,325 medr uwch lefel y môr. Yn 2000, cyhoeddwyd canol hanesyddol Arequipa yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.
Adeiladau a chofadeiladau [golygu]
- Eglwys gadeiriol
- Iglesia de la Compañía (eglwys)
- Mynachdy Santa Catalina
- Y Tambos
Enwogion [golygu]
- Ignacio Álvarez Thomas (1787-1857), milwr
- José Bustamante y Rivero (1894-1989), gwleidydd
- Alberto Vargas (1896-1982), arlunydd