Tenochtitlan

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio
Tenochtitlan, yn edrych tua'r dwyrain. Llun gan Dr Atl, 1930.

Prifddinas y gwareiddiad Aztec ym México oedd Tenochtitlan neu Mexico-Tenochtitlan, weithiau Tenochtitlán. Roedd wedi ei adeiladu ar ynys yn Llyn Texcoco, yn yr hyn sy'n awr yn Ddinas Mecsico.

Sefydlwyd Tenochtitlan yn 1325; yn ôl y chwedl daeth llwyth y Nahua i fyw ar yr ynys yn unol â gorchymyn eu duw Huitzilopochtli. Erbyn 1428 roedd yn bridffinas yr Aztec a'r ddinas bwysicaf yng Nghanolbarth America. Erbyn i'r ddinas gyrraedd ei huchafbwynt, roedd yn un o ddinasoedd mwyaf y byd, gyda phoblogaeth o dros 200,000.

Cipiwyd Tenochtitlan yn 1521 gan y Sbaenwyr a'u cynhheiriaid brodorol dan Hernán Cortés. Yn ddiweddarach, gorchmynodd Cortés ail-adeiladu'r ddinas.


Eginyn erthygl sydd uchod am Fexico. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

Offer personol