Samarcand

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Canol Samarcand

Dinas yn Wsbecistan yw Samarcand, weithiau Samarkand (Wsbeceg: Samarqand neu Самарқанд). Roedd y boblogaeth yn 2004 yn 419.600.

Mae Samarcand yn un o ddinasoedd hynaf y byd, wedi ei sefydlu yn y 14eg ganrif CC. Datblygodd fel un o'r sefydliadau ar hyd Llwybr y Sidan, rhwng Tseina a'r Dwyrain Canol. Marakanda oedd ei henw pan gipiwyd y ddinas gan Alecsander Fawr yn 329 CC.

Roedd yr ardal, Sogdia, yn Gristnogol i raddau helaeth hyd nes i'r Arabiaid ddod ag De Islamyma. Cipiwyd y ddinas gan Ibn Qutaiba yn 712, ond bu nifer o wrthryfeloedd, a dim ond wedi i fyddin Ymerodraeth Tseina gael ei gorchfygu ger afon Talas yn 753 y daeth i feddiant y Mwslimiaid yn barhaol.

Yn 1370, gwnaeth Timur Samarcand yn brifddinas yr ymerodraeth yr oedd wedi ei chreu, a daeth a phenseiri o bob rhan o'r ymerodraeth i weithio yma. Dyddia llawer o adeiladau hanesyddol Samarcand o gyfnod Timur. Mae Timur ei hun wedi ei gladdu yma. Cyhoeddwyd y ddinas yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.

Pobl enwog o Samarcand[golygu]

Mosg Bibi Khanum