Sonora
Un o 31 talaith ffederal Mexico, sy'n gorwedd yng ngogledd-orllewin y wlad am y ffin â'r Unol Daleithiau, yw Sonora. Mae ganddi boblogaeth o 2,839,989 (2000).
Golchir arfordir 1,208 km Sonora gan Môr Cortez, sy'n rhan o Gwlff California, sy'n ei chysylltu â'r Cefnfor Tawel i'r de. Mae Sonora yn ffinio â thalaith Chihuahua i'r dwyrain, Sinaloa i'r de a Baja California i'r gogledd-orllewin; i'r gogledd mae ganddi ffin hir ag Arizona ac un llai â New Mexico yn yr Unol Daleithiau. Dros Gwlff California i'r gorllewin mae ganddi ffin forol â Baja California Sur. Sonora yw'r dalaith ail fwyaf ym Mexico (184,934 km²), gyda 9.2% o arwynebedd y wlad.
Y prif dirweddau yw: Sierra Madre Occidental, Mynyddoedd a Dyffrynnoedd Parallel, Anialwch Sonora, ac arfordir Gwlff California. Cadwyn y Sierra Madre oedd un o gadarnleoedd Geronimo ac Apache Chiricahua eraill yn y 1880au.
Prif ddinasoedd [golygu]
- Hermosillo 707,890
- Ciudad Obregón 375,800
- Nogales 290,759
- Guaymas 101,505 (heb gynnwys Empalme)
- Navojoa 163,312
- San Luis Río Colorado 138,796
|
|
||
|---|---|---|
| Aguascalientes · Baja California · Baja California Sur · Campeche · Chiapas · Chihuahua · Coahuila · Colima · Durango · Guanajuato · Guerrero · Hidalgo · Jalisco · Michoacán · Morelos · Nayarit · Nuevo León · Oaxaca · Puebla · Querétaro · Quintana Roo · San Luis Potosí · Sinaloa · Sonora · Tabasco · Talaith Mexico · Tamaulipas · Tlaxcala · Veracruz · Yucatán · Zacatecas | ||
| Distrito Federal | ||