Doha
Oddi ar Wicipedia
| Doha | |
|---|---|
| Lleoliad o fewn Qatar | |
| Gwlad | Qatar |
| Ardal | Ad Dawhah |
| Llywodraeth | |
| Daearyddiaeth | |
| Arwynebedd | 132 km² |
| Demograffeg | |
| Poblogaeth Cyfrifiad | 339,847 (Cyfrifiad 2004) |
| Dwysedd Poblogaeth | 2,574 /km2 |
| Metro | 998,651 |
| Gwybodaeth Bellach | |
| Cylchfa Amser | AST (UTC+3) |
Doha (Arabeg: الدوحة) yw prifddinas Qatar. Mae ganddi boblogaeth o 400,051 yn ôl cyfrifiad 2005 ac fe'i lleolir ym mwrdeisdref Ad Dawhah ar lan Gwlff Persia. Doha yw dinas fwyaf Qatar, gyda thros 80% o boblogaeth y wlad yn byw yno neu yn ei maesdrefi. Mae'n ganolfan economaidd i'r wlad hefyd. Mae Doha hefyd yn gartref i Ddinas Addysg (Education City), ardal arbennig ar gyfer ymchwil ac addysg. Roedd dinas Doha hefyd wedi cynnal Gêmau Asiaidd 2006, sef y Gêmau Asiaidd fwyaf i gael ei chynnal erioed.
Mae Doha wedi datblygu i fod yn ddinas fodern gyda safon byw uchel. Lleolir pencadlys y rhwydwaith teledu rhyngwladol Al Jazeera yn y ddinas.
[golygu] Adeiladau a chofadeiladau
- Amgueddfa Genedlaethol Qatar
- Prifysgol Qatar
- Tŵr Aspire
- Ynys Pearl-Qatar