Manama
Oddi ar Wicipedia
Manama (Arabeg: المنامة Al-Manāmah) yw prifddinas Bahrain a dinas fwyaf y wlad gyda phoblogaeth o tua 155,000, tua chwarter poblogaeth y wlad ei hun.
Daeth Manama yn brifddinas y Bahrain annibynnol ar ôl cyfnodau o ddominyddiaeth arni gan y Portiwgaliaid a'r Persiaid yn gynharach yn ei hanes. Erbyn heddiw mae'n brifddinas fodern a'i heconomi'n seiliedig ar hyrwyddo masnach wrth i'r diwydiant olew gymryd rhan llai blaenllaw yn yr economi.