Cuzco

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y Plaza de Armas, Cuzco

Dinas yn ne-ddwyrain Periw yw Cuzco, hefyd Cusco. Mae'n brifddinas departamento Cuzco, ac ar un adeg roedd yn brifddinas Periw.

Cuzco oedd prifddinas Ymerodraeth yr Inca, ac yna wedi'r goncwest gan y Sbaenwyr, hi oedd prifddinas Is-Deyrnas Periw. Mae'r boblogaeth tua 390,000. Cyhoeddwyd y ddinas yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1983. Mae'n ganolfan bwysig i dwristiaid, gyda tua miliwn o ymwelwyr yn ystod y flwyddyn 2008.